Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Fawr

Efan, sy'n bedair oed, o Landysul yn archwilio'r peiriannau
- Cyhoeddwyd
Roedd yr haul yn tywynnu ym Mhowys ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Fawr yn Llanelwedd.
Dyma flas bach o'r hyn oedd i'w gweld yn y sioe heddiw.

Gwartheg Charolais yn cael eu harddangos

Roedd Prif Weinidog Cymru Rhun ap Iorwerth ar y maes ddydd Llun

Y bwyellwyr, o Seland Newydd, Yr Iseldiroedd, Lloegr, Iwerddon, Y Weriniaeth Tsiec a thu hwnt yn cystadlu brynhawn Llun

Macsen o Gwm Gwaun yn helpu Dad i baratoi'r defaid

Sied y defaid yn llawn

Gyda Chymdeithas Ffermwyr Ifanc Cymru'n nodi 90 mlwyddiant eleni, roedd y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yn rhan o'r dathliadau

Mae angen help i gyrraedd pennau y ceffylau gwedd

Ac o'r ceffylau mawr i'r ceffylau bychain... Jac ac Alfie o Ynys Môn gyda'u ceffylau Shetland minature

Cneifio gyda gwellau, a'r Cymro Elfed Jackson yn fuddugol yn ei gymal

Paul Williams o ardal Llanybydder yn dathlu buddugoliaethau ei iâr

Valencia o Ben-y-bont ar Ogwr yn mwynhau hufen iâ yn yr haul

Y Llu Awyr Brenhinol yn rhoi sioe uwchben y prif gylch

Morgan o Aberhonddu gyda Gafr Seisnig â chyrn hynod drawiadol

Amser bwyd i'r moch bach

Un o'r ceffylau hardd a oedd i'w gweld yn y prif gylch amser cinio
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
