'Pawb yn teimlo'r golled' wedi marwolaeth dyn yn y Sioe Fawr

Mae "pawb yn teimlo'r golled" yng nghymuned wledig Uwchaled yn dilyn marwolaeth dyn 25 oed yn y Sioe Frenhinol, meddai cynghorydd lleol.

Yn gynharach ddydd Llun rhoddodd teulu Dewi Aeron Evans o Lanfihangel Glyn Myfyr deyrnged iddo, gan ei alw'n "fab, brawd ac ŵyr annwyl a hoffus".

Bu farw ar Fferm Penmaenau yn Llanelwedd dros y penwythnos.

Dywedodd y Cynghorydd Gwennol Ellis, sy'n cynrychioli ardal Llanfihangel Glyn Myfyr, ei bod yn gobeithio bod y "don o gariad" sy'n cael ei anfon at y teulu "yn fodd o'u cynnal nhw trwy'r brofedigaeth erchyll yma".