'Cefnogi'r ieuenctid sy'n bwysig' - Llywydd y Sioe Fawr

Mae'r llywydd Gethin Havard wedi dweud mai'r 'bobl, yr ieuenctid a'r egni' sydd yn bwysig yn y Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy wythnos y Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae'r llywydd anrhydeddus eleni wedi dweud mai "cefnogi'r ieuenctid" sy'n bwysig a "sicrhau eu bod yn aros yn y diwydiant".
Sir Frycheiniog ydy sir nawdd Sioe Frenhinol 2026 a dywed Gethin Havard sy'n ffermio ym Mhontsenni gyda'i ddau frawd ei bod yn fraint aruthrol i fod yn llywydd - rhywbeth na wnaeth e erioed ddychmygu.
Fel cyn-gystadleuydd a beirniad ei hun, mae'n dweud ei fod yn edrych ymlaen at weld y 'crème de la crème' o anifeiliaid ac "edmygu'r gwaith campus" yn ystod yr wythnos.
Disgrifiodd y Sioe Fawr fel "parti mwyaf cefn gwlad sydd i'w gael ym Mhrydain Fawr a phellach efallai".
Nos Sul fe fydd ei ferch, Elin Havard, yn arwain Moliant y Maes yn y sioe.

Mae Gethin Havard wedi disgrifio'r Sioe Fawr fel 'parti mwyaf cefn gwlad'
Wrth edrych ymlaen at wythnos brysur, dywedodd mai'r "bobl sy'n bwysig yn y sioe, yr ieuenctid, yr egni".
"Rwy'n credu bod ni ar y pwynt nawr lle mae'n hollbwysig bo' ni'n gwneud y mwya' o'r bobl ifanc - cefnogi nhw, rhoi cyfleoedd da iddyn nhw a sicrhau bod nhw'n aros yn y diwydiant - nid ond o safbwynt cynhyrchu bwyd, ond o safbwynt y cymunedau.
"Nhw ydy calon ein cymunedau."
Pwysig 'rhannu'r baich'
Mae Gethin Havard hefyd yn cefnogi'r newyddion bod elusen Tir Dewi wedi mynd ati i greu clwb ffermwyr hŷn, i roi cyfle i ffermwyr ddod at ei gilydd mewn diwydiant sydd yn gallu bod yn unig - gyda ffermwyr yn aml yn gweithio ar eu pennau eu hunain.
Ag yntau wedi wynebu heriau iechyd meddwl ei hun yn y gorffennol, dywedodd ei bod hi'n "hen bryd" i glwb o'r fath gael ei sefydlu.
"Yn bersonol dwi'n ffeindio bod hi'n hanfodol bo' fi'n mynd i farchnad neu rywle bob wythnos er mwyn cael trafodaeth gyda bobl eraill a falle rhannu'r baich. Os chi'n haneru'r problemau 'dych chi'n cyrraedd adre mewn gwell lle.
"Mae'n holl bwysig bod cyfleoedd fel hyn ar hyd a lled Cymru achos 'dyn ni'n gweld neb am fisoedd.
"Mae'r pwysau corfforol yna, ond mae'r pwysau meddyliol wedi cynyddu mae hwnna'n sicr ac mae'n gallu bod yn lle reit unig ac reit anodd o bryd i'w gilydd."
'Sir Frycheiniog yn byrlymu'
Mae'n dweud iddi fod yn flwyddyn brysur o godi arian yn Sir Frycheiniog fel sir nawdd y Sioe Fawr ond bod "lot o hwyl a lot o sbort wrth gymdeithasu" wedi bod hefyd.
Mae'r sir wedi casglu bron i £100,000 o bunnau meddai tuag at elusennau tu hwnt i'r Sioe Frenhinol.
"Pan chi'n sôn am broblemau meddyliol, mae'n amlwg bod yna bobl yna - ni'n byw mewn adeg lle dwi'n credu bod yna social vacuum ers Covid.
"Ac maen nhw'n gwerthfawrogi'r cyfle i gymdeithasu.
"Mae côr sir gyda ni, mae dros cant yn y côr, gallech chi byth wedi dychmygu hynny'n bod.
"Mae pawb wir, wir yn cael hwyl a mae Sir Frycheiniog yn byrlymu - ni'n edrych ymlaen."
Straeon Perthnasol
Cynnal sioe Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig wedi'r cwbl
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
Taith i bob fferm odro ym Môn i godi arian i'r Sioe Fawr
- Cyhoeddwyd27 Mehefin
O'r Mart i'r Maes: Ymgyrch unigryw ffermwyr at 'achos mor deilwng'
- Cyhoeddwyd14 Mehefin
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.