Dyn, 66, yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yng Nghasnewydd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau o ffrae tu allan i eiddo yn Heol St Vincent ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 66 oed o Gasnewydd wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o lofruddio yn dilyn marwolaeth menyw yn y ddinas.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddogion heddlu arfog, eu hanfon i Heol St Vincent mewn ymateb i adroddiadau o ffrae tu allan i eiddo yn ystod yr oriau mân ddydd Sadwrn ,18 Gorffennaf.
Bu farw Charlene Dowsell ychydig bellter i ffwrdd ger Heol Cas-gwent, er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hachub.
Mae Albert Williams, o Heol Ruperra, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd i gadarnhau ei enw ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio ddydd Sul.
Bydd Mr Williams yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
