Dyn, 66, wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw yng Nghasnewydd

Cafodd y gwasnaethau brys eu galw wedi adroddiadau o ffrae tu allan i eiddo yn Heol St Vincent
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 66 oed o Gasnewydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth menyw yn y ddinas.
Cafodd y gwasanaethau brys, gan gynnwys swyddogion heddlu arfog, eu hanfon i Heol St Vincent mewn ymateb i adroddiadau o ffrae tu allan i eiddo yno yn yr oriau mân ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf.
Bu farw'r fenyw ychydig bellter i ffwrdd ger Heol Cas-gwent, er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hachub.
Mae disgwyl i Albert Williams fynd o flaen Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.
Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth swyddogion arbenigol.
Dydy'r heddlu heb gadarnhau ei henw eto.

Cerbydau a swyddogion heddlu yn Heol Cas-gwent ddydd Sadwrn
Dywed Heddlu Gwent y bydd mwy o blismyn i'w gweld yn yr ardal tra bod ymholiadau'n parhau.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth neu luniau a gafodd eu tynnu rhwng 01:00 a 03:00 y bore ddydd Sadwrn, all fod o gymorth i'r ymchwiliad.
"Mae un dyn nawr wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth a gyda hynny dan sylw rwy'n gofyn i bobl beidio â dyfalu am yr achos yma ar-lein tra bo'r broses gyfreithiol yn mynd yn ei blaen," dyweodd y Ditectif Uwcharolygydd Matt Sedgebeer.
"Gall y sylwadau hyn effeithio ar ein gallu i erlyn unrhyw un wedi canfyddiad ei fod wedi cyflawni trosedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.