Dynes ifanc wedi marw o ataliad ar y galon mewn gŵyl ym Môn - cwest

Lucy Ellen Halpin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lucy Ellen Halpin ei geni a'i magu ym Mangor, Gwynedd

GanCarwyn Jones
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi'i agor a'i ohirio i farwolaeth dynes ifanc fu farw mewn gŵyl gerddoriaeth ar Ynys Môn.

Bu farw Lucy Ellen Halpin, 18, ar 11 Gorffennaf ar ôl mynd i ŵyl Tonnau ger Llanfaethlu.

Wrth agor y cwest, dywedodd y crwner Kate Robertson fod Ms Halpin wedi dioddef ataliad ar y galon a bod ganddi achos i amau ​​bod achos y farwolaeth yn annaturiol

Cadarnhaodd fod archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ond nad oedd achos y farwolaeth wedi'i chadarnhau.

Canslo'r ŵyl wedi'r digwyddiad

Cafodd Ms Halpin ei geni a'i magu ym Mangor, Gwynedd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw ystâd Carreglwyd, Llanfaethlu am 01:45 ar y bore Sadwrn yn dilyn adroddiadau o argyfwng meddygol.

Cafodd Ms Halpin ei chludo i'r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach am 03:18.

Ar y pryd, fe wnaeth trefnwyr gŵyl Tonnau gadarnhau fod yr ŵyl wedi'i chanslo er mwyn galluogi'r awdurdodau i gynnal eu hymholiadau.

Wrth agor a gohirio'r cwest ddydd Mawrth, dywedodd y crwner Ms Robertson ei bod yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf â theulu Ms Halpin.

Straeon perthnasol