Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad dros y blynyddoedd

- Cyhoeddwyd
Mae Tîm Cymru yn cystadlu mewn 10 camp yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, sydd yn cael ei chynnal 23 Gorffennaf i 2 Awst yn Glasgow.
Dyma'r 23ain tro i Gymru gymryd rhan yn y gemau; roedd Cymru'n un o'r 11 gwlad a oedd yn y Gemau cyntaf un yn ôl yn 1930, ac rydyn ni wedi cystadlu bob tro ers hynny.
Cyhoeddi Tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
Dyma gipolwg ar rai o ymddangosiadau Cymru yn y Gemau dros y blynyddoedd:
1930 - Hamilton, Canada
Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig oedd enwau'r gemau'n wreiddiol, gyda'r digwyddiad cyntaf yn cael ei gynnal yn Hamilton, Canada ym mis Awst 1930.
Dim ond 400 cystadleuydd o 11 gwlad a gymerodd ran yn y flwyddyn gyntaf. Daeth Cymru yn 7fed, gan ennill dwy fedal arian ac un efydd, oll gan y nofwraig Valerie Davies.
Dim ond tîm nofio gafodd ei anfon o Gymru draw i'r Gemau, ac fe gystadlodd ambell i athletwr - fel y rhedwr, Reg Thomas - ar ran Lloegr yn lle.

Medal cystadleuydd (anhysbys) i nodi'r Gemau cyntaf yn 1930
1938 - Sydney, Awstralia
Jim Alford - athro o Gaerdydd - a enillodd fedal aur gyntaf Cymru yn y Gemau, a hynny'n y ras 1 milltir.
Erbyn diwedd y gemau, roedd ail fedal aur wedi ei hennill, yn y bocsio, a medal arian yn y pwll. Gorffennodd Cymru yn 6ed.

Medal aur Jim Alford
1958 - Caerdydd, Cymru
Roedd Caerdydd i fod i groesawu'r Gemau yn 1946, ond roedd wedi ei ganslo (a Gemau 1942 cyn hynny) oherwydd yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd y brifddinas y cyfle o'r diwedd ym mis Gorffennaf 1958.

Baner a chwpan i gofio'r Gemau yng Nghaerdydd
Enillodd Cymru 11 medal - y rhan fwyaf ohonyn nhw o'r sgwâr bocsio.
Roedd y rhan fwyaf o'r campau'n cael eu cynnal yng Nghaerdydd, ond ar Lyn Padarn oedd y cystadlaethau rhwyfo, lle enillodd Cymru fedal efydd yn y gamp Pedwar heb Lywiwr (Coxless Four).

Tîm Cymru yn cyrraedd yn gorymdeithio yn y seremoni agoridaol ym Mharc yr Arfau
1962 - Perth, Awstralia
Dwy fedal arian a phedair efydd ddaeth adref i Gymru o Awstralia; tair o'r medalau am godi pwysau.
Roedd Cymru yn safle 13 o'r 35 gwlad a gystadlodd yn y Gemau, a gafodd eu cynnal ddiwedd Tachwedd.

Enillodd Cymru arian yn y gamp rhwyfo Pedwar heb Lywiwr. Dyma lun tracwisg Jeremy Luke (ail o'r chwith)
Dyma oedd y tro cyntaf i'r Gemau Paraplegig y Gymanwlad gael eu cynnal hefyd, a hynny ychydig wythnosau cyn Gemau'r Gymanwlad.
1966 - Kingston, Jamaica
Enillodd Cymru saith medal y flwyddyn honno - gan ennill medalau aur, arian ac efydd am godi pwysau. Cafodd medal aur am saethu ei rhoi i John Vivian, 4ydd Barwn Abertawe.
Roedd llwyddiant hefyd i David Winters yn y Gemau Paraplegig pan enillodd ddwy fedal, ar ôl ennill ei gyntaf yn ôl yn Perth yn '62 mewn cleddyfaeth (fencing).
Daeth y Gemau Paraplegig i ben yn 1974 ar ôl cael eu cynnal bedair gwaith.

Rhaid o atgofion David Winters o gystadlu yn Jamaica
1970 - Caeredin, Yr Alban
Dyma oedd y gemau cyntaf i gael eu galw yn Gemau'r Gymanwlad (ar ôl cael eu galw yn Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad ers 1954).
Yn y gemau yma yr enillodd Lynn 'The Leap' Davies ei ail fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn y Naid Hir, ar ôl ennill y gyntaf yn 1966.
Daeth Cymru yn 12fed yn y tabl, ar ôl ennill 12 medal, gyda phump wedi eu hennill yn y pwll.

Y bathodyn ar flaser tîm Cymru, a medal aur Lynn Davies
1978 - Edmonton, Canada
Nawfed oedd safle Cymru yn y gemau yn Edmonton, gan ennill wyth medal. Bowls Lawnt oedd prif gamp y Cymry y flwyddyn honno; daeth tair medal efydd yn ôl adref.
Enillodd Berwyn Price fedal aur yn y Clwydi 110m, gan wella ei ganlyniad yn 1974 yn Christchurch, lle daeth yn ail.

Medal efydd Anthony Feal yn y bocsio, a blaser aelod o'r tîm bowls, a enillodd dair medal efydd
1986 - Caeredin, Yr Alban
Roedd y Gemau yn llwyddiannus iawn i'r rhedwraig Kirsty Wade, a wnaeth y 'dwbl', gan ennill aur yn yr 800m a'r 1,500m, y fenyw gyntaf i wneud hynny o fewn yr un Gemau. Daeth medalau aur eraill Cymru o'r bowls lawnt a'r bocsio.
Yn safle 5 oedd Cymru ar ddiwedd y Gemau ar ôl ennill 23 medal; chwech aur, pump arian a 12 efydd. Un o enillwyr y medalau arian oedd y Colin Jackson i 19 oed yn y Clwydi 110m.

Kirsty Wade (canol) a ddaeth yn fuddugol yn y ras 1,500m, gan guro Debbie Bowker (arian) a Lynn Williams (efydd) o Ganada
1994 - Victoria, Canada
Medal aur ddaeth i Colin Jackson yn y Clwydi 110m y tro yma, ond hefyd medal efydd i Gymru, wrth i Paul Gray ddod yn 3ydd.
Roedd 128 yn sgwad Cymru y flwyddyn honno, a daethon nhw adref gydag 19 medal. Enillodd Gareth Hives dair medal efydd mewn codi pwysau.

Tony Jarrett o Loegr ddaeth yn ail, Colin Jackson yn gyntaf a Paul Gray yn drydydd
2002 - Manceinion, Lloegr
Enillodd Cymru 31 o fedalau, gan gynnwys aur gan y seiclwr ifanc o Abertawe, Nicole Cooke; yr enillydd cyntaf erioed i Gymru yn y ras ar y ffordd.
Roedd hefyd yn ddigwyddiad llwyddiannus - ond yn ddiwedd cyfnod - i'r codwr pwysau, Dave Morgan; yr unig gystadleuydd erioed i ennill medal mewn chwe Gemau'r Gymanwlad, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn 1982.
Ym Manceinion, enillodd ddwy fedal aur ac un arian.

Nicole Cooke, Jamie Baulch ac Iwan Thomas, a Dave Morgan gyda phum medal aur o Gemau'r Gymanwlad
Daeth Iwan Thomas, Matt Elias, Jamie Baulch a Tim Benjamin â medal arian arall adref, a hynny yn y ras gyfnewid 4x400m.
Dyma'r flwyddyn y daeth chwaraeon anabl yn rhan o Gemau'r Gymanwlad, yn hytrach nac yn ddigwyddiad ar wahân fel sy'n digwydd mewn pencampwriaethau eraill.
2010 - Delhi, India
Cyfanswm medalau Cymru yn Delhi oedd 19. Enillodd Becky James a Jazz Carlin fedal arian a medal efydd yr un; y naill ar y beic a'r llall yn y pwll.
Ychwanegodd y codwr pwysau a chapten Tîm Cymru y flwyddyn honno, Michaela Breeze, fedal arian at yr aur enillodd ym Melbourne a'r arian ym Manceinion. Aeth ymlaen i fachu'r efydd yn 2014.
Enillodd y chwaraewr bowls, Robert Weale, fedal aur, 24 mlynedd ers ei aur gyntaf yng Nghaeredin yn 1986. Cafodd y fraint o gario'r Ddraig Goch yn y seremoni clo.

Darn arian a gafodd ei wneud gan y Bathdy Brenhinol ar gyfer Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Delhi, a'r ymdrech a enillodd y fedal arian i Michaela Breeze
2018 - Arfordir Aur, Awstralia
Dyma oedd Gemau mwyaf llwyddiannus Cymru, gyda 36 o fedalau - 10 ohonyn nhw yn rhai aur.
Cafodd bocswyr Cymru hwyl arni, gyda medalau aur i Lauren Price a Sammy Lee, arian i Rosie Eccles ac efydd i Mickey McDonagh
Enillodd Olivia Breen aur yn y naid hir-T38, ac efydd yn y 100m-T38. Olivia yw capten Tîm Cymru yn y Gemau yn Glasgow eleni, a Rosie Eccles yn cario'r faner yn y seremoni agoriadol.

Lauren Price yn paratoi ar gyfer ei gornest, gyda Rosie Eccles a oedd eisoes wedi ennill ei medal arian, ac Olivia Breen yn dathlu ei medal efydd yn y 100m-T38
2022 - Birmingham, Lloegr
Y seiclwr, Geraint Thomas a'r chwaraewr sboncen, Tesni Evans oedd yn cario'r faner yn y seremoni agoriadol yn Birmingham. Enillodd Geraint yr efydd yn y ras unigol yn erbyn y cloc.
Aeth y sgwad yn ôl adref i Gymru gyda 28 medal, gan gynnwys aur i Aled Sion Davies ac efydd i Harrison Walsh yn y taflu disgen F44/F64.
Roedd hi hefyd yn Gemau llwyddiannus i'r seiclwr James Ball a ddaeth yn gyntaf yn y ras gwibio tandem ac yn ail yn y ras tandem yn erbyn y cloc, ac i'r efeilliaid Croft o Grymych yn y bocsio - enillodd Ioan fedal aur, ac i Garan, medal efydd.

Y Ddraig Goch yn y seremoni agoriadol, llwyddiant i Aled Sion Davies a Harrison Walsh, a James Ball a'i beilot, Matt Rotherham, yn dathlu buddugoliaeth yn y gwibio
Pob lwc Tîm Cymru!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd15 Mehefin

- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024
