Bydd hofrennydd ar gael i ymladd tân Rhinogydd wedi beirniadaeth yn lleol

Tân ardal RhinogyddFfynhonnell y llun, Pat O'Neill
Disgrifiad o’r llun,

Roedd beirniadaeth wedi bod am ddiffyg cymorth o'r awyr i helpu'r gwasanaeth tân ymladd yn erbyn y tân yn ardal Rhinogydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd hofrennydd diffodd tân arbenigol ar gael i helpu'r ymateb i danau gwyllt sy'n llosgi ers dros wythnos ar fynyddoedd y Rhinogydd.

Yn dilyn cwynion diweddar am y diffyg cymorth o'r awyr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod hofrennydd ar gael ddydd Gwener.

Mae'r tân wedi bod yn rhuo yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers tua 11 diwrnod erbyn hyn.

Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd perchennog gwesty Rhiw Goch yn Nhrawsfynydd, y "gallai'r tân wedi cael ei ddiffodd cyn iddo ledaenu tuag at Fronaber pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt".

Roedd CNC wedi dweud adeg hynny eu bod wedi derbyn a chymeradwyo cais gan y gwasanaeth tân am gymorth o'r awyr, ond nad oedd hofrenyddion arbenigol ar gael oherwydd galw mawr am eu cymorth ar draws y DU.

Nos Iau, maen nhw wedi cadarnhau y bydd un o'r hofrenyddion yn "cael ei ddefnyddio ar y Rhinogydd bore fory i gefnogi'r ymateb parhaus i'r tân gwyllt".

Disgrifiad,

Tanau'n llosgi ar y Rhinogydd ger Trawsfynydd ddydd Mercher

Yn gynharach yn yr wythnos roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dweud eu bod wedi "adolygu" eu dull o sicrhau cymorth o'r awyr ar gyfer tanau gwyllt dros fisoedd diweddar, gan "symud o drefniant hirsefydlog a oedd yn dibynnu ar un darparwr yn unig, i fframwaith sy'n rhoi mynediad at nifer o ddarparwyr".

Ond roedd y ffaith bod tanau ar draws y DU yn cynyddu'r galw am hofrenyddion yn golygu nad oedd unrhyw gymorth awyr addas ar gael.

'Parhau i asesu argaeledd'

Dywedodd CNC fod y datblygiad ddydd Iau yn "dilyn ymdrechion parhaus i sicrhau cefnogaeth o'r awyr yn ystod cyfnod o alw eithriadol i ddigwyddiadau tanau gwyllt mewn mannau eraill yn y DU".

"Bydd yr hofrennydd yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r ymateb, gan weithio ochr yn ochr ag ymdrechion ymroddedig criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a'n timau ein hunain, sydd wedi bod yn cefnogi'r ymateb i ddigwyddiad ar lawr gwlad.

"Am fwy nag wythnos, mae ein staff, ein contractwyr a'n partneriaid wedi bod yn gweithio o gwmpas y cloc i ymateb i'r digwyddiad hwn a byddwn yn parhau i gefnogi ein cydweithwyr yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y dyddiau i ddod," meddai'r llefarydd.

Mae tân ar fynyddoedd y Rhinogydd yng Ngwynedd wedi bod yn llosgi ers 10 diwrnod erbyn hynFfynhonnell y llun, Caroline Mason
Disgrifiad o’r llun,

Mae tân ar fynyddoedd y Rhinogydd wedi bod yn llosgi dros ardal eang

Er y cadarnhad am ddydd Gwener, ychwanegodd CNC y "bydd ei argaeledd yn parhau i gael ei asesu yn unol ag anghenion gweithredol ledled Cymru a'r DU yn ehangach".

"Os bydd angen cefnogaeth awyr ar Wasanaethau Tân ac Achub eraill ar gyfer digwyddiadau yn eu hardal, byddwn yn parhau mewn cysylltiad agos i ddeall yr anghenion hynny ac ystyried y ffordd orau o gynorthwyo ochr yn ochr a'n partneriaid o asiantaethau gwahanol.

"Hoffem ddiolch i bawb a fu'n rhan o'r ymateb, gan gynnwys cydweithwyr y Gwasanaeth Tân ac Achub, tirfeddianwyr, contractwyr a chymunedau lleol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig