Gemau'r Gymanwlad yn gyfle i Ela Letton-Jones ysbrydoli eraill

Mi fydd Ela Letton-Jones yn cymryd rhan yng Ngemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un fythgofiadwy i Ela Letton-Jones.
Fe wnaeth hi gystadlu ym Mhencampwriaethau Paranofio y Byd am y tro cyntaf a llwyddo i ennill medal arian ac yna torri record Cymru ar deirgwaith ym Mhencampwriaethau Prydain.
Cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad sydd o'i blaen hi nesaf a'r nod ydy parhau gyda'i llwyddiant diweddar.
"Dwi'n mynd yn fwy nerfus wrth i'r Gemau ddod yn nes," meddai Ela mewn cyfweliad gyda BBC Cymru.
"Ond dwi'n edrych ymlaen achos dim ond unwaith bob pedair blynedd maen nhw'n digwydd.
"Dwi hefyd yn edrych ymlaen gan fod y teulu'n gallu dod i wylio gan mai yn Glasgow mae'r Gemau."
Mae byw gyda nam golwg wedi gwneud Ela Letton-Jones yn benderfynol o lwyddo yn y pwll nofio
O'r Felinheli yn wreiddiol, fe ddechreuodd Ela nofio pan oedd hi'n bump oed.
Mae ganddi gyflwr o'r enw albinism sy'n effeithio ar ei golwg ac sy'n golygu ei bod hi fel arfer yn cystadlu yn y categori S12.
Mae tri chategori i bobl gyda nam golwg - mae S12 yn y canol, S11 ydi'r mwyaf eithafol ac S13 ydi'r lleiaf eithafol.
Yn anffodus does 'na ddim rasys S12 yn Glasgow felly mi fydd yn rhaid iddi gystadlu yn y categori S13 y tro hwn.
Dros y blynyddoedd mae hi wedi llwyddo i berffeithio ei thechneg yn y pwll, gan wneud pethau fel cyfri ei strôcs er mwyn gwybod pryd y bydd hi'n cyrraedd y wal.
"Swn i'n sicr yn dweud ei fod (albinism) o wedi pwsho fi.
"Swn i'n dweud hefyd ei fod o wedi fy ngwneud i'n fwy hyblyg gan bo fi'n gallu addasu i wneud pethau gwahanol.
"Mae o wedi rhoi mwy o ddyfalbarhad i fi, a dwi'n meddwl mai dyna sut dwi'n llwyddo mewn nofio achos fy mod i'n benderfynol a wastad isho cyrraedd yr uchelfannau.
"Mae'n bwysig canolbwyntio ar be mae pobl yn gallu ei wneud yn hytrach na be tydyn nhw ddim yn gallu ei wneud."

Ela Letton-Jones (ar y chwith) yn ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Paranofio y Byd yn 2025
Mae Ela bellach yn 20 oed ac wedi bod yn nofio'n broffesiynol ers ond pedair blynedd.
Mae'n bosibl y buasai hi wedi troi'n broffesiynol yn gynt petai hi wedi cael gwybod mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i baranofwyr pan yn iau.
Mae hi'n gobeithio fod y cyhoeddusrwydd mae hi'n ei gael yn mynd i'w gwneud hi'n haws i eraill sydd â chyflyrau tebyg i ddilyn yr un llwybr â hi.
"Dwi'n gobeithio fy mod i'n ysbrydoli pobl," meddai Ela.
"Mae hi'n bwysig nodi fod pobl yn gallu cyrraedd yr un lefel, os oes ganddyn nhw gyflwr neu anabledd, ag unrhyw berson arall.
"Pan o'n i'n ifanc doeddwn i ddim yn ymwybodol fod 'na ffasiwn beth â paranofio.
"Wrth i fi fynd yn hŷn mi oedd 'na sicr mwy o gyfleoedd. Ond 'swn i hefyd yn dweud fod 'na lot mwy 'sa ni'n gallu ei wneud i hyrwyddo paranofio."

Mi fydd Ela yn gobeithio dilyn camp Medi Harris a lwyddodd i ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022
Mae 21 o nofwyr wedi cael eu cynnwys yn nhîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad.
Yn eu plith mae'r pencampwyr Olympaidd Matt Richards a Kieran Bird, yn ogystal â Medi Harris enillodd fedal efydd yn y Gemau yn Birmingham yn 2022.
Roedd Rhys Darbey yn 17 oed pan enillodd fedalau aur ac arian yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024.
Fe wnaeth Ela ennill medal arian ym Mhencampwriaethau Paranofio y Byd yn y 100m dull cefn S12 yn Singapore y llynedd.
Mae 'na siawns da felly y gwelwn ni Gymry yn ennill medalau yn y nofio yn Glasgow.
"Mae'n rhoi hyder i fi y ffaith dwi wedi perfformio'n dda y llynedd, dwi'n gobeithio y gallai berfformio hyd yn oed yn well yn Glasgow.
"Dwi'n hoffi fy mod i'n gallu pwsho fy hun, a dwi'n gwybod y gallai bob tro berfformio'n well.
"Y bwriad ydy ennill mwy o fedalau a gobeithio y gallai wneud Cymru'n falch."
Y freuddwyd i Ela yn y pen draw yw cystadlu yn y Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028.
Bydd gwireddu'r freuddwyd honno yn dod yn nes os y bydd hi'n llwyddiannus yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow.