Jo Stevens yn gadael swydd Ysgrifennydd Cymru

Jo StevensFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Jo Stevens wedi cadarnhau ei bod yn gadael ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Cyhoeddodd AS Dwyrain Caerdydd y newyddion ar ei chyfrif X brynhawn Llun.

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r prif weinidog newydd, Andy Burnham, baratoi i gyhoeddi pwy sydd yn ei gabinet.

Nid yw Rhif 10 wedi cadarnhau eto pwy fydd yn olynu Stevens yn y swydd.

Dywedodd Stevens: "Rwy'n dymuno'r gorau i'r prif weinidog newydd a'm holynydd yn eu rolau newydd."

Dywedodd hefyd ei bod wedi bod yn "anrhydedd" gwasanaethu fel ysgrifennydd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a'i bod yn hyderus y byddai ei holynydd, ynghyd ag arweinydd newydd Llafur Cymru, Ken Skates, yn "gwneud gwaith gwych" dros bobl Cymru.

Rhoddodd deyrnged hefyd i'r cyn-brif weinidog, Keir Starmer, gan ddweud ei bod yn "falch" o fod wedi gwasanaethu yn ei lywodraeth ac o'i alw'n ffrind.

Mae AS Torfaen, Nick Thomas-Symonds, hefyd wedi cadarnhau ei fod yn gadael ei swydd yn y llywodraeth fel Tâl-feistr Cyffredinol a Gweinidog Swyddfa'r Cabinet wrth i Andy Burnham baratoi i gyhoeddi ei gabinet newydd.