'Mae gen i'r M4 yn fy ngardd gefn, a dwi wrth fy modd yma'

- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 60 mlynedd ers adeiladu'r M4 dros Bort Talbot - y darn cyntaf o draffordd drefol ym Mhrydain – a wnaeth drawsnewid y daith yn ôl a 'mlaen o orllewin Cymru.
Ond mae profiadau rhai yn y dref, yng nghysgod y ffordd anferth, yn dangos pam mai dyma un o'r rhai olaf hefyd.
Gorffennaf 22, 1966 oedd dyddiad agor rhan 4.25 milltir (6.8km) o ffordd a gafodd ei disgrifio fel ffordd osgoi Port Talbot, cyn ei hailenwi'n rhan o'r M4, uwchben cartrefi yn y dref.
Roedd 'na groeso i'r ffordd i ddechrau wrth i deithwyr allu osgoi'r tagfeydd cyson ar yr hen A48.
Ond cafodd cartrefi eu dymchwel, a'r gymuned ei hollti'n ddwy, gan arwain at gyfraith newydd i amddiffyn hawliau.

I Aimee (chwith) a Narelle (dde) mae'r colofnau concrit sy'n cadw'r ffordd yn yr awyr, yn rhan annatod o'u bywydau
Mae gerddi Narelle Cowan ac Aimee Lipley llai na 100 llath o'i gilydd, ac mae gan y ddwy ardd sawl peth yn gyffredin.
Mae gan y ddwy blanhigion hardd a chadeiriau ar gyfer bwyta yn yr awyr agored – ac un o draffyrdd prysuraf y DU uwchben.
Mae'r strwythur concrit enfawr - y brif ffordd rhwng Llundain a de Cymru - yn sefyll ar golofnau tua 14 metr (45 troedfedd) uwch eu gerddi.
"Mae gen i dri philer o'r M4 yn fy ngardd gefn - dwi'n defnyddio un ohonyn nhw i helpu i hongian fy lein ddillad!" meddai Narelle.

Dywedodd y fam 34 oed nad yw hi "wir yn sylwi ar sŵn cerbydau, yn enwedig pan fyddwch chi'n gwrando ar gerddoriaeth ac yn mwynhau eich hun".
"Dwi'n ei alw'n awyrgylch!" meddai.
"Mae'n gyfleus oherwydd bod y draffordd yn gorchuddio hanner cefn yr ardd, felly mae gen i ardal sych ac mae'n rhoi cysgod rhag yr haul – rhywbeth sydd wedi bod yn ddefnyddiol yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"Dwi'n gwybod na fyddai rhai eisiau traffordd yn eu gardd, ond dyw e ddim yn trafferthu fi na fy nghymdogion.
"Mae 'na gymuned hyfryd ac mae llawer wedi bod yn byw yma ers amser maith. Rydyn ni wrth ein boddau yma."

Mae gyrwyr ar yr M4 yn brysio dros erddi cefn, ychydig fetrau o gartrefi
Cafodd Aimee Lipley, sy'n 39, ei magu yn y dref, ac mae ganddi atgofion melys o chwarae dan y ffordd tra'n cysgodi o'r glaw pan yn blentyn.
Erbyn hyn mae hi wedi prynu ei chartref cyntaf yng nghysgod y bont.
Mae'r lleoliad wedi gwneud prynu'r math o dŷ mae hi eisiau yn y dref yn fwy fforddiadwy, meddai.
"Rwy'n ei hoffi yma. Pan mae hi'n bwrw glaw, gallwch gerdded i'r siopau heb wlychu eich gwallt."

Disgrifiad o’r llun, Yr olygfa yn edrych tuag at Stryd Llewellyn, gyda'r ffordd ymuno o'r dref o'i flaen
1 o 3
Ond mae rhai problemau.
"Rydyn ni'n cael llawer o sbwriel yn ein gardd gan bobl sy'n taflu pethau allan o'u cerbydau ar y ffordd uwchben."
"Rydyn ni'n cael gweld beth mae pobl yn ei fwyta - weithiau mae yna bennau sigaréts, ac mae'n ddiddorol gweld pa fath o greision mae pobl yn eu bwyta."
Ni fydd y rhan fwyaf o'r 75,000 o gerbydau sy'n teithio ar hyd y ffordd pob dydd yn gweld beth sydd islaw, ond mae'n olygfa rhyfeddol.
Mae'n enghraifft o beirianwaith arloesol o'r 60au, gyda'r ffordd yn llythrennol yn gorffwys ar resi o bileri concrit anferth.

Mae'r cysgod wedi bod yn ddefnyddiol i bobl... o chwarae pêl-droed ym mhob tywydd, neu hyd yn oed lle rhad i barcio cwch
Fe gafodd capeli, ysgolion a 125 o dai eu dymchwel i wneud lle i'r draffordd.
Roedd gan drigolion Stryd Llewellyn ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau, ond cafodd un ochr o'r rhes dai ei dymchwel ar gyfer y ffordd, gan adael dim ond y tai gydag odrifau yn syllu ar wal anferth, neu bileri.
Am ddegawdau roedd llygredd aer yn y dref o ganlyniad i'r draffordd yn torri rheolau rhyngwladol, felly yn 2018 daeth y penderfyniad dadleuol i ostwng y terfynau cyflymder o 70 i 50 milltir yr awr.
Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae'r lefelau llygredd i drigolion bellach yn is na'r terfynau cyfreithiol.

Sally Roberts-Jones yn y swyddfa yng nghefn ei thŷ - o ble mae'n gallu gweld y ffordd
Symudodd y bardd a'r hanesydd Sally Roberts-Jones i'r dref o Lundain yr haf y cafodd y ffordd ei hagor.
Roedd hynny wedi iddi ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mharc Margam, a phenderfynu y byddai'n dysgu siarad Cymraeg.
Mae hi'n byw mewn tŷ teras sy'n llawn llyfrau ar stryd tua 200m o'r ffordd, ond dydy hi'n cymryd bron dim sylw o'r draffordd sydd bron yn mynd uwch ei phen.
"Rwy'n credu 'wi ddim yn gweld e. Mae e yma pob tro, dwi'm yn gallu clywed sŵn y ffordd.
"Weithiau dwi'n eistedd lawr just outside Tesco, ac edrych lan a gweld loris a pethau'n mynd dros y ffordd, ond na... mae'n od!"

Stryd Llewellyn cyn adeiladu'r ffordd - cafodd 125 o cartrefi eu dymchwel

A dyma Stryd Llywelyn nawr
Roedd y ffordd ddwy-lôn yn yr awyr yn un o adrannau cyntaf yr M4, ac yn deillio o'r cyfnod pan adeiladwyd llawer o draffyrdd yn y 1960au.
Roedd hynny'n dilyn y cynnydd aruthrol yn nifer y bobl oedd yn berchen ar geir ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Effaith agor y gwaith dur yn 1951 a chodi stad dai Sandfields wnaeth y tagfeydd ar yr A48 ym Mhort Talbot yn waeth
Mae llawer o enghreifftiau o draffyrdd sydd wedi'u hadeiladu'n agos at gartrefi pobl yn ninasoedd mwyaf y DU, fel Llundain, Birmingham a Glasgow, ond ychydig sy'n fwy trawiadol na'r sefyllfa ym Mhort Talbot, lle mae'r M4 yn rhannu'r dref yn ddwy.
O ganlyniad roedd y siwrne rhwng Abertawe a Chaerdydd 20 munud yn gynt a'r daith wedi newid am byth i yrwyr.

Mae Mike Greene a'i frawd yn rhedeg cwmni cludo ers degawdau
Mae Mike Greene yn cofio'r siwrne cyn adeiladu'r ffordd pan yn blentyn.
Yn y 60 mlynedd ers hynny mae lorïau'r cwmni yn Sir Gâr wedi cludo cerrig mân i sawl rhan o'r M4 wrth ei hadeiladu, nes bod y ffordd yn teimlo'n rhan o'i hanes.
Er gwaetha'r rhwystredigaeth o dagfeydd o amgylch Port Talbot, mae'n credu fod cynnydd aruthrol yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r ffordd yn ei gwneud hi'n gwbl amlwg ei bod yn angenrheidiol.
"Bydde'r holl draffig hyn nawr, ffili copio... mae'n siŵr fydde gen ti giw o Gaerfyrddin mas i Gaerdydd!
"Bydde ti ffili credu i weld e, gredwn i."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

