Cyhuddo cadeirydd y Seintiau o dorri rheolau am neges cyfryngau cymdeithasol

Mike HarrisFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Clwb Mike Harris, Y Seintiau Newydd enillodd y gynghrair yng Nghymru y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cadeirydd Y Seintiau Newydd wedi cael ei gyhuddo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) o dorri eu rheolau disgyblu dros neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r cyhuddiadau'n ymwneud â neges a roddodd Mike Harris, perchennog y clwb, ar X ar 21 Gorffennaf.

Roedd y neges, sydd bellach wedi'i dileu, yn ymddangos fel petai'n dangos fideo wedi'i greu gan ddeallusrwydd artiffisial o fenywod hanner noeth.

Mae Mr Harris wedi'i gyhuddo gan y gymdeithas o gyhoeddi cynnwys sarhaus a dirmygus sydd wedi dwyn anfri ar bêl-droed Cymru a sarhau urddas unigolion neu grwpiau.

Mae gan Mr Harris saith diwrnod gwaith i ymateb i'r cyhuddiad.

Cafodd ei gosbi gan CBDC yn 2019 am neges oedd yn sarhaus ac yn gwahaniaethu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe gafodd ei wahardd am 10 gêm a bu'n rhaid iddo dalu dirwy, ar ôl y drafodaeth ar-lein gyda chyn-berchennog Cei Connah, Gary Dewhurst.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.