Teyrngedau i un o 'arwyr tawel' yr Eisteddfod, 'Robin Llwyfan'

Cafodd Robin Jones ei urddo i Orsedd Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i un o wynebau mwyaf cyfarwydd cefn llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol am ddegawdau - Robin Jones, neu 'Robin Llwyfan' - a fu farw yn 83 oed.
Bydd yn cael ei gofio fel yr un oedd yn cyfarch cystadleuwyr - yn unigolion, grwpiau a chorau, gan sicrhau eu bod yn eu lle ac yn barod i fynd ar lwyfan y pafiliwn i berfformio.
Bu'n rhan annatod o'r tîm o wirfoddolwyr cefn llwyfan am gyfnod o 30 mlynedd, nes iddo ymddeol yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Yn enedigol o ardal Trawsfynydd, fe ymgartrefodd ym Mhenrhyndeudraeth gyda'i wraig Catherine a'u merch Gwenan.
'Gwneud i gystadleuwyr deimlo'n gartrefol'
Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 cafodd ei anrhydeddu gan Orsedd Cymru, gan gael ei urddo i'r Wisg Las am ei gyfraniad.
Defnyddiodd yr enw 'Robin Llwyfan' fel ei enw yn yr Orsedd hefyd.
Wrth iddo gael ei urddo cafodd ei ddisgrifio fel "dyn sydd wedi gwneud cyfraniad oes ar lawr gwlad".
Yn ogystal â'i gyfraniad i'r Eisteddfod Genedlaethol, roedd hefyd yn weithgar iawn yn ei gymuned ac yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau lleol.
Bu'n arwain Eisteddfod Stesion, Trawsfynydd am 30 mlynedd, ac yn arwain Eisteddfodau'r Urdd a'r Ffermwyr Ifanc yn sirol yn rheolaidd.
Cafodd ei gydnabod am ei gyfraniad gyda gwobr gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru yn 2017.
Bu'n wirfoddolwr hefyd fel tywysydd yng nghartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn, yn ei fro enedigol yn Nhrawsfynydd.
Mari Grug fydd Llywydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las
- Cyhoeddwyd3 Mehefin
Eisteddfod Genedlaethol 2027 i'w chynnal yn ardal Glantwymyn
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
500 o wisgoedd yr Orsedd i'w smwddio cyn y Steddfod
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol:
"Bu Robin yn rhan o'r tîm llwyfan yn yr Eisteddfod am flynyddoedd, yn cynnig gair o anogaeth i gystadleuwyr wrth iddyn nhw baratoi i fynd ar y llwyfan ac yn sicrhau fod popeth yn rhedeg yn llyfn ac esmwyth.
"Un o'n harwyr tawel oedd yn rhoi o'i amser i gefnogi'r Eisteddfod ac mae ein diolch yn fawr iddo.
"Rydyn ni'n meddwl am deulu a holl ffrindiau Robin yn ystod y cyfnod anodd hwn ac yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf at bawb."
'Cymeriad hoffus iawn'
Dywedodd cyn-drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Hywel Wyn Edwards bod Robin Jones yn ddyn "dibynadwy, gyda gwên ar ei wyneb oedd yn gwneud i gystadleuwyr deimlo'n gartrefol yn y cefn".
"Roedden ni hefyd yn ei ddefnyddio ym mlaen y pafiliwn, i sicrhau bod pethau'n digwydd yn y rhesi blaen - pan oedd eisiau rhywbeth arbennig fel pan oedd y Celtiaid yn dod i'r llwyfan yn y seremoni ar y dydd Llun - fo oedd yn sicrhau eu bod nhw'n mynd i'r lle iawn ar yr adeg iawn.
"Pan oedd y seremonïau'n gorffen roedd o'n aml iawn yn sefyll yng ngwaelod y grisiau i wneud yn siŵr bod pawb yn dod i lawr o'r llwyfan yn ddiogel, rhag ofn i rywun syrthio.
"Roedd yn gymeriad hoffus iawn oedd yn gwybod yn union beth oedd eisiau ei wneud.
"Roedd cystadleuwyr yn bwysig iawn iddo fo, ac roedd yr Eisteddfod yn andros o bwysig iddo fo."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.