Allai ffermwyr fod yn arbed arian a gwella dŵr afonydd ar yr un pryd?

Buwch yn syllu'n syth at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Gallai ffermwyr Sir Benfro fod yn arbed £1m y flwyddyn drwy fewnforio llai o wrtaith, tra'n dioeglu ansawdd dŵr hefyd, yn ôl ymchwil

GanSteffan Messenger
Gohebydd amgylchedd
  • Cyhoeddwyd

Bydd ffermwyr yn allweddol i'r gwaith o lanhau dwy o afonydd mwyaf llygredig Cymru, ac fe allen nhw fod yn arbed arian drwy wneud hynny, yn ôl ymchwil newydd.

Mae'r Cleddau Wen a'r Cleddau Ddu yn Sir Benfro yn llifo drwy dir amaethyddol sy'n cynhyrchu cymaint a 25% o laeth Cymru, a 50% o'i thatws.

Daeth gwyddonwyr o Brifysgol Caerhirfryn i'r casgliad bod amaethwyr yr ardal yn mewnforio llawer mwy o wrtaith a bwyd anifeiliaid nag oedd eu hangen, gan achosi i ffosfforws gronni yn y tir a niweidio ansawdd dŵr.

Nawr fel rhan o un o'r prosiectau mwyaf o'i fath yn y byd - mae dros 200 o fusnesau amaethyddol yn lleol yn mesur eu "hôl troed maetholion", er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.

Aber yr afonydd Cleddau yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Adrian Burke
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cleddau Wen a'r Cleddau Ddu yn uno i ffurfio dyfrffordd Aberdaugleddau

"Mae'r Cleddau'n achos eithaf eithafol," eglurodd Ric Cooper o Brosiect y Cleddau, gwirfoddolwyr sy'n ceisio adfer afonydd sydd wedi'u dynodi yn ardaloedd cadwraeth arbennig.

"Mae gennym ni un o'r dwyseddau uchaf o wartheg llaeth yn y wlad [yma] - mae'n ddiwydiant llwyddiannus a phwysig iawn i Sir Benfro... [ond] mae hefyd gennym ni afon sydd ddim yn ymdopi."

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r ddau Gleddau wedi'u nodi fel yr afonydd gwarchodedig sy'n perfformio waethaf gan y rheoleiddiwr amgylcheddol, Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae lefelau uchel o faetholion yn y dŵr, sy'n gallu arwain at dyfiant algâu, sy'n amddifadu pysgod a mathau eraill o fywyd gwyllt o ocsigen.

Mae'r sefyllfa mor ddifrifol fel bod cyfyngiadau ar adeiladu tai yn lleol wedi'u cyflwyno yn ddiweddar.

Ric Cooper o Brosiect y Cleddau
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ric Cooper yn wirfoddolwr sy'n gweithio i geisio adfer afonydd sy'n ardaloedd cadwraeth arbennig

Mae ffosfforws - sydd i'w ganfod mewn gwrtaith a bwyd da byw - yn cael ei ystyried fel un o'r sylweddau mwyaf pryderus.

Tra bod allyriadau carthffosiaeth a llygredd diwydiannol yn cyfrannu hefyd, mae'r ymchwil newydd yma - a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru - yn dweud mai amaethyddiaeth yw'r brif ffynhonnell o lygredd ffosfforws yn afonydd Cleddau.

Edrychodd tim RePhoKUs, dolen allanol Prifysgol Caerhirfryn yn fanwl ar yr holl ffosfforws oedd yn cael ei fewnforio i'r ardal, a faint oedd yn gadael mewn llaeth, caws neu gynnyrch arall.

Maen nhw'n dod i'r casgliad bod llawer mwy o ffosfforws yn dod i mewn i ddalgylch yr afonydd na sy'n cael ei dynnu allan drwy gynhyrchu bwyd.

Mae oddeutu 360 o dunelli o ffosfforws yn weddill bob blwyddyn o gymryd i ystyriaeth holl ffermydd yr ardal - sef pwysau 26 bws dau lawr.

Parlwr godroFfynhonnell y llun, Farm Images via Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffermydd Sir Benfro yn cynhyrchu tua 25% o laeth Cymru

Mae peth o hyn yn cael ei golli'n uniongyrchol i afonydd, tra bod y gweddill yn cronni yn y pridd, gan greu "etifeddiaeth" cynyddol o ffosfforws fydd yn parhau i lygru afonydd am ddegawdau i ddod, medd awduron yr adroddiad.

Mae'n nhw'n dadlau nad oes angen i ffermydd lleol fod yn prynu cymaint o wrtaith artiffisial - drwy wasgaru slyri a thail eu gwartheg yn fwy effeithiol.

"O ystyried y dalgylch yn gyfan, mae cyfanswm y ffosfforws sydd wedi'i gynnwys mewn tail anifeiliaid fferm yn ddigon i ateb gofynion tyfu cnydau," eglurodd yr athro Paul Withers, a arweiniodd y gwaith.

Mae'r ymchwil yn amcangyfrif y gallai arbed tua £1.08m y flwyddyn i ffermwyr y sir.

"Mae 80% o'r ffosfforws yna yn dod o ffermio felly'r gwir yw allwn ni ddim adfer y Cleddau i gyflwr da heb mynd i'r afael â'r gormodedd o faetholion sy'n cael ei gynhyrchu a newid sut ry'n ni'n ffermio," meddai Ric Cooper.

"Ond wrth newid sut ry'n ni'n ffermo mae'n rhaid i ffermwyr fod ar eu hennill hefyd," ychwanegodd.

Llaeth mewn archfarchnad
Disgrifiad o’r llun,

Fe graffodd yr ymchwilwyr ar faint o ffosfforws oedd yn cael ei fewnforio i'r sir a faint oedd yn gadael eto mewn cynnyrch fel llaeth

Mae'r cwmni cydweithredol ffermydd llaeth, First Milk, sydd â safle mawr yn prosesu caws yn Hwlffordd, yn trio mynd i'r afael â'r sefyllfa gyda phob un o'u 700 o aelodau drwy'r DU - gan gynnwys 200 o ffermydd yng ngorllewin Cymru.

Mae'r grŵp wedi amcangyfrif "ôl troed maetholion" bob fferm - gan edrych yn fanwl ar faint o wrtaith a bwyd anifeiliaid sy'n cael ei brynu.

Mae'r data'n cael ei ddefnyddio gyda mapiau lloeren newydd sy'n mesur y risg o achosi llygredd afon ar bob cae.

Bydd disgwyl i ffermwyr addasu fel maen nhw'n gwasgaru slyri a gwrtaith yn unol â'r mapiau, a chyflwyno mesurau eraill i leihau'r risg o darfu ar afonydd a gwella ansawdd y pridd i ddal mwy o ddŵr.

Byddan nhw'n gorfod adrodd yn flynyddol ynglŷn â'u cyrhaeddiad, gyda ffermydd risg uchel yn derbyn cymorth i wella.

"Ry'n ni'n annog ffarmio adfywiol, sef ffarmio da i fod yn onest," eglura Esther Stephens, rheolwraig gorllewin Cymru First Milk.

"Ni'n gofyn iddyn nhw roi'r gwybodaeth i mewn am fewnbynnau i'r ffarm - fertiliser mae'n nhw'n prynu, y cake [bwyd ychwanegol i dda byw sy'n uchel mewn maetholion]..."

"Ni'n dweud wrth bob ffarm pa fath o nutrient footprint sydd 'da nhw - hefyd ynghlwm gyda hwn wedyn ma' 'da ni'r maps sy'n dangos y llefydd sydd fwya' o risg i'r ffarm yna gael sgwaru fertiliser a phenderfynu fel maen nhw'n cael gwared o bopeth o'r ffarm."

Dywedodd ei fod yn "system hollol newydd" a bydd angen ei esbonio i bob aelod.

"Bydd e'n hala ffermydd i feddwl - reit mae isie fi dynnu nôl, meddwl mwy am y mewnbynnau fi'n prynu mewn - mae'n safio arian yn un peth."

Ond roedd y cwmni am fod "un cam ymlaen" o ran taclo ansawdd dŵr hefyd: "Ma' rhai ffermydd yn rhoi enw gwael i ffermwyr da a gweud y gwir - a mae hyn yn trio dangos i'r cyhoedd beth sy'n mynd ymlaen ar ffermydd a beth ni'n trio 'neud."

Esther Stephens o gwmni First Milk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Esther Stephens yn gofalu am 200 o ffermydd llaeth sy'n cyflweni cwmni First Milk yng ngorllewin Cymru

Ymhlith y sawl sy'n cymryd rhan yn y prosiect mae Rhys Bevan, o Gasmael.

"Ni'n recordio popeth ni'n rhoi ar y perci [caeau] - y gweryd [gwrtaith] a'r slyri a phopeth dros y flwyddyn," esboniodd.

Mae torri'n ôl ar fewnbynnau yn gwneud synnwyr ariannol, meddai, "gyda phris gweryd fel mae e [dyw e ddim yn] 'neud sens i wastraffu fe".

"Sdim pwynt i ffermwyr rhoi e ar iddo fe olchi mewn i'r afon - mae'n costi digon fel mae a mae'n 'neud niwed i'r amgylchedd."

Mae'n gweld y prosiect fel cyfle i "ddangos i'r llywodraeth beth allwn ni 'neud" - a chyfle i'r diwydiant yn ehangach ddysgu ac efelychu'r gwaith.

Rhys Bevan ac Esther Stephens
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffermwyryn derbyn asesiad o'u defnydd o faetholion fel ffosfforws ac yn cael gweld mapiau o'r risg o lygredd ym mhob cae

Mae ffermydd dan bwysau i weithredu ar lygredd maetholion, gyda nifer o archfarchnadoedd mawr bellach wedi arwyddo cytundeb yn addo eu bod yn cyflenwi 50% o fwyd ffres o ardaloedd â rheolaeth cynaliadwy o ddŵr erbyn 2030.

"Ry'n ni wedi gweld 20 mlynedd o ffocysu ar garbon a mae'r ôl troed carbon yn fesur allweddol ym mhob rhan o fusnes," meddai Lee Truelove, pennaeth ffermio adfywiol First Milk.

"Ond mae gan ffermio gylchrediad maetholion enfawr hefyd, a phan fod hwnnw allan o gydbwysedd yna mae'r afonydd yn teimlo'r effaith."

Lee Truelove o First Milk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lee Truelove eisiau "i'n cymunedau ni groesawu ffermwyr llaeth sy'n gweithredu" ar lygredd afonydd

"Dwi ddim yn gwbod am unrhywbeth arall fel hyn unrhyw le yn y byd" o ran manylder y data i bob fferm, meddai Ric Cooper.

"Mae ffermwr sy'n lleihau ei ôl troed maetholion yn ffermio mewn ffordd wahanol yn fwy cyffredinol - gyda phriddoedd sy'n fwy iach ac yn amsugno mwy o garbon, yn defnyddo llai o blaleiddwyr sy'n annog bioamrywiaeth - mae fel cylch o ddaioni."

Mae casgliadau'r astudiaeth yn cael eu cyflwyno yn y Sioe Fawr ddydd Mercher, gyda'r ymchwilwyr yn cwrdd â gwleidyddion.

"Falle fod hyn am y Cleddau ond mae'n llawer ehangach na hynny hefyd," ychwanegodd Cooper.

"Mae problemau gyda maetholion mewn lot o lefydd lle mae da byw yn cael eu ffermio yn ddwys, ac os na newn ni unrhywbeth am hynny fydd ein hafonydd ni byth yn gwella."

Symud gwrtaith mewn ffatri yng Nghasnewydd.  Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth yr astudiaeth i'r casgliad nad oedd angen i ffermwyr fod yn prynu cymaint o wrtaith

Croesawodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad gan ddweud bod "gwella iechyd y Cleddau yn gofyn am weithredu ar draws pob sector".

Ychwanegodd llefarydd fod 'Cynllun Rheoli Maetholion Afonydd Cleddau' y llywodraeth eisoes yn "helpu i wella dealltwriaeth o bwysau ffosfforws a nitrogen, canfod ymyriadau dylai dderbyn blaenoriaeth, a chefnogi adferiad hirdymor yr afonydd pwysig hyn a'r amgylchedd morol pellach i lawr yr afon".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.