Plaid Cymru'n amddiffyn pleidleisio gyda Reform ar ôl beirniadu Llafur am wneud

Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Pan ofynnwyd a oes yna un rheol i'r llywodraeth ac un arall i Lafur, dywedodd Rhun ap Iorwerth nad oedd yn "gwneud unrhyw gymariaethau" rhwng y materion yma

GanTeleri Glyn Jones
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog wedi amddiffyn pleidleisio gyda Reform yn y Senedd ychydig oriau ar ôl beirniadu Llafur am bleidleisio gyda Reform yn erbyn cyllideb Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod "rhaid edrych ar gyllidebau mewn ffordd wahanol".

Fe wnaeth llywodraeth leiafrifol Plaid Cymru fethu â phasio ei chyllideb atodol ddydd Mawrth, ac aeth y prif weinidog ymlaen i feirniadu Llafur am bleidleisio "gyda Reform yn erbyn cyllideb flaengar i Gymru" mewn cyfweliadau radio ac mewn clipiau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ddydd Mercher, cefnogodd aelodau Plaid Cymru gynnig gan Reform ar ddifa moch daear.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: "Mae pleidiau'n pleidleisio gyda'i gilydd neu yn erbyn ei gilydd mewn pob math o ffyrdd gwahanol, ond mae'n rhaid edrych ar gyllideb mewn ffordd wahanol – mae arwyddocâd arbennig i bleidleisiau ar gyllidebau."

Pan ofynnwyd a oedd yn ymddangos fel pe bai un rheol i'r llywodraeth ac un arall i Lafur, dywedodd nad oedd yn "gwneud unrhyw gymariaethau rhwng y ddau fater penodol yma".

Dywedodd fod Llafur wedi penderfynu pleidleisio yn erbyn y gyllideb atodol "oedd yn flaengar o dan unrhyw amgylchiadau – mae'n rhaid iddyn nhw egluro pam".

Daeth trafodaethau rhwng Plaid Cymru a Llafur i ben ar ôl iddyn nhw fethu â chytuno ar gyllid ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.

Galwodd Llafur am £100m i'r sector a gwrthodon nhw gynnig y llywodraeth o £40m y flwyddyn dros dair blynedd, gan ddweud ei fod yn "gytundeb gwael i addysg".

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lynne Neagle yn credu bod y "gwawdio" gan y llywodraeth yn "arwydd na allwch chi ennill y ddadl"

Yn ystod y ddadl ar y gyllideb atodol, dywedodd Lynne Neagle, llefarydd addysg Llafur: "Rwyf wedi clywed y gwawdio trwy'r prynhawn gan y llywodraeth hon ein bod yn pleidleisio gyda Reform.

"Mae hynny islaw chi ar fater o'r pwysigrwydd hwn, ac mae'n arwydd na allwch chi ennill y ddadl."

Ychwanegodd: "Felly, fe hoffwn i fod yn glir: nid ydym ni'n pleidleisio gyda Reform, nid ydym ni'n pleidleisio gyda'r Ceidwadwyr Cymreig; rydym ni'n pleidleisio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, ac rydym ni'n pleidleisio dros y staff ysgol sy'n eu cefnogi."

Ymateb 'gwarthus' i gyhoeddiad darlledu

Mewn cyfweliad ar sawl pwnc ar raglen Politics Wales, dywedodd Rhun ap Iorwerth fod ymateb gan lefarydd swyddogol Llywodraeth y DU ar fater gwahanol yn "warthus" ac yn "annerbyniol".

Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn sefydlu Awdurdod Darlledu Cysgodol i Gymru fel rhan o'r "camau cyntaf" tuag at ddatganoli darlledu.

Cyhoeddodd llefarydd swyddogol yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ymateb beirniadol i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru yn y maes.

Dywedodd y llefarydd: "Yng ngoleuni eu methiant i gytuno ar gyllideb yr wythnos hon, byddai'n ddoeth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar reoli'r gwasanaethau sydd ganddi'n well, yn hytrach na gwastraffu mwy o arian trethdalwyr drwy geisio ennill swyddogaethau newydd i'w rhedeg a'u dirywio ymhellach."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod hwn yn "ddatganiad gwarthus gan swyddog llywodraeth".

Ychwanegodd: "Mae'n ddatganiad hynod wleidyddol sy'n sarhaus tuag at Gymru, sy'n sarhaus tuag at ddatganoli, ac sy'n amharchus i Lywodraeth Cymru.

"Ac os ydyn nhw'n sôn am redeg gwasanaethau i'r llawr, mae'n debyg eu bod yn cyfeirio at y gwasanaethau a gafodd eu rhedeg i'r llawr gan lywodraethau Llafur dros y 27 mlynedd diwethaf."

Gan gyfeirio at Andy Burnham, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Rydym bellach yn edrych ymlaen at Brif Weinidog newydd y DU yn y swydd sy'n dweud ei fod am weithio'n gadarnhaol gyda Llywodraeth Cymru.

"Ni allaf ddychmygu y byddai'n rhy falch o ddarllen datganiad o'r fath, o'r math na chefais ei glywed bron byth, os o gwbl, gan swyddog llywodraeth."

'Dydych chi ddim yn llosgi'ch pongydd o'r dechrau'

Dywedodd Shav Taj, AS Llafur Caerdydd Ffynnon Taf, wrth BBC Politics Wales ei bod "yn wirioneddol siomedig gyda'r ffordd yr aeth [Plaid] ati i gynnal trafodaethau".

"Gofynnon ni am un peth - cefnogaeth ariannol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Dim mwy na hynny."

Yn ôl Jason O'Connell, AS Reform ym Mhontypridd Cynon Merthyr, dydy Plaid "ddim yn ymddangos fe petawn nhw wedi dysgu unrhyw wersi ac fe wnaethon nhw yn sicr gymryd Llafur yn ganiataol, rwy'n meddwl, yn ystod y broses yma".

Ychwanegodd eu bod "wedi cymryd y bydden nhw'n dod gyda nhw ond yn amlwg wnaethon nhw ddim hyd yn oed siarad gyda Reform i weld ble roedden ni".

Dywedodd Peter Fox, AS y Ceidwadwyr Cymreig yn Sir Fynwy Torfaen, y dylai ap Iorwerth, fel prif weinidog newydd fod wedi "buddsoddi amser mewn meithrin perthnasau, yn gynnar... dydych chi ddim yn llosgi'ch pongydd o'r dechrau.

"Roedd cyflwyno'r ddadl honno yn naïf pan roedd yn gwybod ei fod yn debygol o golli."

BBC Politics Wales ddydd Sul am 10:00 ac yna ar BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.