Cyngor M么n yn ystyried casglu biniau yn fisol
- Cyhoeddwyd

Gallai biniau gael eu casglu unwaith y mis, a chymunedau orfod rhedeg llyfrgelloedd wrth i Gyngor Ynys M么n geisio torri ei wariant o 拢5.5m.
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried torri 拢1m o nawdd ar gyfer ysgolion, cynyddu ffioedd parcio a phreifateiddio cartrefi gofal.
Ar ben hynny, gallai trethdalwyr wynebu cynnydd o 4.5% yn eu biliau.
Bydd ymgynghoriad ar y cynlluniau yn dechrau'r wythnos nesaf.
Dywedodd y cyngor ei fod yn ystyried casglu biniau du unwaith pob tair neu bedair wythnos i arbed arian.
Pe bai'r syniad yn cael ei wireddu, byddai M么n yn dilyn esiampl Gwynedd, a benderfynodd newid i gasgliadau pob tair wythnos y llynedd.