Main content

'Un llaw sydd 'da fi, fel Paul y cot goch' - Paul Davies yn cofio ysbrydoli plentyn tra yn gweithio ar lwyfan Butlins

Paul Davies yn trafod derbyn ei anabledd a pwysigrwydd chynrychiolaeth, a sut y gall bod yn agored am ein gwahaniaethau helpu eraill i deimlo'n fwy hyderus a balch o bwy ydyn nhw.

Paul Davies sy'n edrych nol ar ei brofiad fel person ag un llaw a'r ffordd y mae wedi dysgu derbyn ei anabledd.

Mae'n trafod ei fagwraeth yn y Rhondda ar agweddau agored oedd i'w cael yno wrth ymateb i wahaniaethau. Sylweddolai iddo dechrau cuddio rhan o'i hunaniaeth er mwyn gwneud eraill yn fwy cyfforddus ar adegau pan symydodd i fyw i Loegr. Esboniai iddo droi ei fraich oddi wrth bobl a cheisio peidio â thynnu sylw ati, ond daeth i'r casgliad na allai guddio rhan mor bwysig ohono'i hun.

Mae Paul hefyd yn adrodd stori ddoniol o gyfnod yn perfformio ar lwyfan Bultins, lle roedd plant yn copïo ei symudiadau wrth glapio. Gan mae dim ond un llaw sydd ganddo, roedd y plant wedi addasu'r symudiad a chreu dwrn wrth glapio. Roedd y digwyddiad yn dangos pa mor naturiol y mae plant yn derbyn gwahaniaeth ac yn addasu iddo.

Adroddai atgof emosiynol am fam ddaeth ato ar ddiwedd sioe, a dweud mae dyma'r tro cyntaf i'w ferch fynd at bobl yn falch a dweud, “Mae gen i un llaw fel Paul.” Roedd y foment honno'n gwneud i Paul sylweddoli pwysigrwydd cynrychiolaeth a'r gwahaniaeth y gall ei wneud i bobl ifanc sy'n chwilio am rywun tebyg iddyn nhw eu hunain.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau