Hedydd Hughes
Beti George yn holi Hedydd Hughes sydd wedi ymroi i warchod traddodiadau Sir Benfro. Beti George interviews Hedydd Hughes from Pencaer, Pembrokeshire.
Hedydd Hughes yw gwestai Beti George.
Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir.
Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y Dhogie Band.
Cawn hefyd glywed ei thafodiaith hyfryd wrth iddi ddarllen darn bach o Bwll Deri.
Ar y Radio
Darllediadau
- Dydd Sul 18:00BBC Radio Cymru
- Iau 30 Gorff 2026 18:00BBC Radio Cymru
Podlediad
-
Beti a'i Phobol
Sgyrsiau gyda phobl diddorol. Interviews with interesting people
