Castell Aberteifi, Fflach Cymunedol a Pentre Ifan
Mari Grug sy'n ymweld â rhai o leoliadau arbennig ardal Eisteddfod Genedlaethol 2026. Ahead of the National Eisteddfod, Mari Grug visits some of the area's special locations.
Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las, Mari Grug sy'n ymweld â rhai o leoliadau arbennig yr ardal a chyfarfod ag ambell un sy'n byw ac yn gweithio yno. Ar hyd y daith, mae'n clywed hanes Y Garreg Las gan Hedd Ladd Lewis, yn ymweld â Chastell Aberteifi i gael sgwrs â Non Davies, ac yn holi'r Archdderwydd, Mererid Hopwood, am brifeirdd yr ardal.
Mae hefyd yn galw heibio stiwdio Fflach Cymunedol i gael gair gyda Nico Dafydd, yn teithio i Abergwaun i gyfarfod Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn gorffen ei thaith yng ngwersyll yr Urdd, Pentre Ifan, yng nghwmni Delun Gibby.
Ar y Radio
Darllediad
- Dydd Sul 16:00BBC Radio Cymru