Main content

Rhaglen 2: 1996-heddiw

Y berthynas rhwng y sin roc a’r iaith o’r 60au i Cŵl Cymru a grwpiau’n troi i’r Saesneg. The relationship between Welsh pop and the language from the 60s to Cŵl Cymru.

Roedd ‘na gyffro pan gyhoeddwyd bod y Super Furry Animals yn chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol 2026 - y tro cynta’ ers 30 mlynedd.

Ond nôl yn 1996, ymysg y cynnwrf, roedd ‘na ddadlau.
Ar ôl recordio sawl cân Gymraeg, roedd y Furries newydd ryddhau eu halbym cynta - efo pob trac yn Saesneg.

Ar y Maes yn Llandeilo yn 1996, chwibanu’r caneuon wnaeth prif leisydd y band Gruff Rhys. Ac mewn gig gyda’r nos fe gafodd y dorf gopi am ddim o’u sengl newydd - (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith.

Hwn oedd eu hymateb i’r feirniadaeth arnyn nhw a grwpiau newydd eraill fel Catatonia, oedd hefyd efo'u gwreiddiau yn ddwfn yn y sin Gymraeg - ond hefyd wedi troi i’r Saesneg.

Mewn meysydd eraill roedd Cymry Cymraeg yn gwneud eu marc yn y byd Saesneg - ond heb feirniadaeth debyg.

I ddeall y cefndir a’r hanes mae'r gyfres yn mynd yn ôl i ddechrau'r sîn roc Gymraeg i archwilio’r berthynas gydag adfer yr iaith. Mae'r gyfres hefyd yn gofyn pa effaith gafodd penderfyniad y bandiau ar y sîn roc Gymraeg ac ar artistiaid sy’n creu cerddoriaeth heddiw.

16 o ddyddiau ar ôl i wrando

27 o funudau

Ar y Radio

Gwen 7 Awst 2026 23:30

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Catatonia

    You've Got A Lot To Answer For

    • (CD Single).
    • Blanco Y Negro.
  • Gorky’s Zygotic Mynci

    Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd

    • Merched Yn Neud Gwallt Au Gilydd.
    • ANKST.
    • 1.
  • Endaf Emlyn

    Goodbye Cherry Lill

  • Big Leaves

    Gwenan Yn Y Gwenith

    • Ap Elvis.
    • ANKST.
    • 4.
  • Big Leaves

    Racing Birds

  • Celt

    Dros Foroedd Gwyllt

    • @.com.
    • Sain.
    • 8.
  • Malan

    Busy Bee (Horizons Independent Venue Week Session)

  • Mali Hâf

    Esgusodion

    • Recordiau Côsh Records.
  • Mali Hâf

    Cymru Knockin

    • Cymru Knockin.
    • Recordiau Côsh Records.
    • 1.
  • Malan

    Dau Funud

    • The Playbook.
  • Adwaith

    Mwy

    • Libertino.
  • Pys Melyn

    Festri

    • Bolmynydd.
    • Ski Whiff.
    • 2.
  • Mr

    Y Pwysau

    • Oesoedd.
    • Strangetown.

Darllediadau

  • Dydd Sul 16:00
  • Gwen 7 Awst 2026 23:30