Elgan Rhys, prosiect 'Sownd', arddangosfa 'Ffasiwn' a Kayley Roberts
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.
Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mi gawn ni argraffiadau y ffotograffydd Betsan Haf Evans o’r arddangosfa 'Ffasiwn' sydd ymlaen yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd ar hyn o bryd.
Mae bardd mis Mehefin BBC Radio Cymru, Kayley Roberts yn galw heibio'r stiwdio am sgwrs gyda'i cherddi.
Trafod eu harddangosfa ‘Sownd’ yn yr Instituto Santa Maria della Pietà yn Castello, Fenis mae Manon Awst a Dylan Huw ac fe gawn glywed hefyd sut mae eu gwaith yn treiddio i gymunedau ar hyd a lled Cymru yn sgil y cyflwyniad creadigol yma.
Ac mae Elgan Rhys yn rhannu ei brofiadau cyn lansio ei ail nofel 'Plesera'.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Darllediadau
- Sul 21 Meh 2026 13:00BBC Radio Cymru
- Llun 22 Meh 2026 18:00BBC Radio Cymru