Gwynoro Jones dan deimlad ar ôl cael ei ganfod yn ddieuog

Mae'r cyn-wleidydd a darlledwr Gwynoro Jones wedi'i gael yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar fenyw ar drên ym mis Gorffennaf 2024.

Yn siarad gyda BBC Cymru y tu allan i'r llys wedi'r dyfarniad, roedd Mr Jones dan deimlad, a dywedodd ei fod yn teimlo "rhyddhad" ond ei fod yn "flin" hefyd.

Roedd Mr Jones, 83 oed o Orseinon, yn cynrychioli Caerfyrddin yn Nhŷ'r Cyffredin ar ran y blaid Lafur rhwng 1970 a 1974.