Gwyliwch: Tanau'n llosgi ar y Rhinogydd ger Trawsfynydd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau "cynllun rheoli argyfwng" mewn ymateb i'r tanau dros Gymru.
Mae'r gwasanaeth tân yn delio â'r tân ar fynyddoedd y Rhinogydd yn ardal Llyn Cwm Bychan, ger Harlech, ers 10 diwrnod erbyn hyn, ar ôl iddo aildanio ddydd Mercher.
Mae perchennog gwesty yn credu y "gallai'r tân wedi cael ei ddiffodd cyn iddo ledaenu... pe bawn ni wedi cael yr adnoddau yr oedden ni'n gofyn amdanynt".
Dyma'r olygfa o'r fflamau yn ardal Trawsfynydd.