Teyrnged Gorseinon: Cofio ei 'natur gariadus a'i wên hardd'

- Cyhoeddwyd
Mae teulu Ceiran Evans, fu farw yn dilyn digwyddiad yng Ngorseinon, Abertawe, wedi rhoi teyrnged iddo gan ddweud y bydd yn cael ei "garu am byth" ac na fydd yn cael ei anghofio.
Daeth y deyrnged wrth i ddyn 18 oed ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio.
Bu farw Ceiran Evans, 18 oed, yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Pen Cae Crwn ddydd Iau, pan gafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau am wrthdrawiad yn ymwneud â char a beic oddi ar y ffordd.
Mae dyn 19 oed yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau, tra bod ymchwiliad Heddlu De Cymru yn parhau.

Cafodd blodau eu gadael ar y safle ddydd Gwener
Dywedodd teulu Ceiran Evans: "Roedd Ceiran yn cael ei garu yn fwy nag y gall geiriau ei fynegi, a bydd yn cael ei golli bob dydd.
"Daeth ei galon garedig, ei hiwmor direidus, ei natur gariadus a'i wên hardd â chymaint o lawenydd i bawb oedd yn ei adnabod.
"Bydd bob amser yn fachgen bach annwyl i ni; yn cael ei garu am byth, yn cael ei gofio am byth, ac ni fydd fyth yn cael ei anghofio."
Ymddangosodd Tyler Ford, sy'n 18 oed o Dreforys, gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun wedi'i gyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio ail ddioddefwr.
Yn ystod gwrandawiad byr, cadarnhaodd ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn unig cyn cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae disgwyl iddo ymddangos nesaf gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.
Mae Tyler Ford yn amlwg yn y byd cicfocsio ac fe gafodd ei ychwanegu i Oriel Anfarwolion Cicfocsio yn wyth oed.
Fe dderbyniodd fedal Gwobr Dinasyddion Ifanc Prydain yn 2018 am ei gyfraniad i chwaraeon ac elusennau, yn ogystal ag ennill Gwobr Dewi Sant i Bobl Ifanc yn 2020.
Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau a dramâu fel perfformiwr styntiau - gan gynnwys drama BBC Cymru, Keeping Faith.

Mae pum person bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad
Dywedodd Heddlu De Cymru fod pedwar dyn arall sydd wedi'u harestio fel rhan o'r ymchwiliad bellach ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae'r rheiny'n cynnwys dyn 18 oed o Orseinon sy'n cael ei amau o lofruddio ac achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, dyn 33 oed o Orseinon sy'n cael ei amau o lofruddio, a dau ddyn 38 oed o Dregŵyr a Mount Pleasant sy'n cael eu hamau o gynorthwyo troseddwr.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Danielle Thorne fod yr ymchwiliad yn parhau ac maen nhw'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau o'r digwyddiad i gysylltu â'r heddlu.
Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol bod deunydd fideo o'r digwyddiad yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, gan annog pobl i beidio â'i rhannu "am resymau amlwg".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
