Beiciwr modur, 24, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Fwlch Nant y Garth ar gyrion Rhuthun yn yr oriau mân ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mwlch Nant y Garth, yn Sir Ddinbych ddechrau'r penwythnos.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A525 ger safle Coleg Llysfasi tua 03:00 fore Sadwrn.
Un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, medd Heddlu'r Gogledd, sef beic modur Suzuki du, a bu farw'r gyrrwr yn y fan a'r lle er gwaethaf ymdrechion parafeddygon.
Mae teulu'r dyn a'r crwner wedi cael gwybod.
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth neu luniau dashcam gan unrhyw un a oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu a welodd y beic modur yn yr ardal cyn y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Liam Morris: "Hoffwn i ddiolch aelodau'r cyhoedd a roddodd cymorth yn safle'r digwyddiad trasig yma a chynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu'r dyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.