Galw am gynllun i ailagor 'darn pwysig iawn' o Lwybr Arfordir Cymru

Llwybr arfordirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o Lwybr Arfordirol Cymru yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi'i chau ers nifer o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr yn Nghastell-nedd Port Talbot yn galw am gynllun clir i ailagor rhan o Lwybr Arfordir Cymru sydd wedi bod ar gau ers 2023, gan ddweud bod y gwyriad presennol drwy ystad ddiwydiannol yn "ddim yn ddelfrydol".

Mae'r llwybr rhwng Baglan, Llansawel a gorllewin Sandfields wedi'i gau oherwydd pryderon am ddiogelwch yn sgil llyncdyllau ac ansefydlogrwydd y tir.

Dywedodd y Cynghorydd Josh Tuck fod y gwyriad presennol yn arwain cerddwyr ar hyd prif ffyrdd ac ystad ddiwydiannol, yn hytrach na'r arfordir.

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud eu bod yn cefnogi ailagor y llwybr mewn egwyddor, ond nad yw'n bosibl gwneud hynny'n ddiogel ar hyn o bryd.

Suzanne Paddison, Carol Clement-Williams a Josh TuckFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorwyr Suzanne Paddison, Carol Clement-Williams a Josh Tuck ymhlith y rhai sy'n galw am ailagor y llwybr

Dywedodd y Cynghorydd Josh Tuck, sy'n cynrychioli Baglan, fod y llwybr yn "un poblogaidd" gan bobl leol ac ymwelwyr, a'i fod yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd cyn iddo gau.

Ychwanegodd fod nifer o drigolion wedi cysylltu ag ef ers iddo gael ei ethol y llynedd i ddweud eu bod yn "colli cerdded ar y darn yna o lwybr yn fawr".

"Mae'n ymddangos ein bod ni'n colli darn pwysig iawn o seilwaith cymunedol sy'n helpu iechyd a lles pobl," meddai.

Dywedodd hefyd fod y llwybr yn denu ymwelwyr o bob cwr o Gymru ac o Loegr, gan ychwanegu ei fod yn cysylltu'n uniongyrchol â glan y môr a busnesau lleol.

"Mae busnesau bach angen pob cymorth maen nhw'n gallu ei gael, ac mae'n teimlo fel ein bod ni'n colli cyfle," meddai.

"Mae'r gwyriad yn mynd â chi ar hyd y prif ffyrdd ac o amgylch cefn ystad ddiwydiannol, sy'n llawer llai delfrydol ac nid yn daith gerdded hardd iawn."

Dywedodd hefyd fod un grŵp o gerddwyr wedi dilyn y gwyriad ac wedi mynd i mewn i safle'r gwaith dur ar gam cyn cael eu hebrwng allan gan staff diogelwch.

Llyncdwll/ansefydlogrwydd yn y tirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn dweud bod llyncdyllau ac ansefydlogrwydd y tir yn golygu nad oes modd ailagor y llwybr yn ddiogel ar hyn o bryd

Mae deiseb wedi'i sefydlu yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot i gydweithio er mwyn sicrhau'r cyllid sydd ei angen i atgyweirio ac ailagor y llwybr, yn ogystal â chyhoeddi amserlen glir ar gyfer y gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Josh Tuck ei fod yn "ofalus obeithiol" yn dilyn ymateb gan y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llŷr Gruffydd, y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r cyngor ynghylch y camau nesaf.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod y rhan hon o'r llwybr wedi'i chau yn 2023 oherwydd "ansefydlogrwydd sylweddol yn y tir a llyncdyllau" oedd yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

Ychwanegodd y cyngor, er eu bod yn cefnogi ailagor y llwybr mewn egwyddor, fod pryderon parhaus ynghylch diogelwch, cynnal a chadw a chyfrifoldebau cyfreithiol yn golygu nad oes modd ei ailagor "yn ddiogel nac yn gynaliadwy" ar hyn o bryd.

Dywedodd hefyd fod cynrychiolwyr y cyngor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am gymorth i helpu i ddatrys y sefyllfa.

Pynciau cysylltiedig